Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

29ain o Hydref 2005

Ddiwedd y daith - ynteu'r dechrau?

Rhai meddyliau wrth gau pen y mwdwl...

Mae gan bawb yng Ngymru berthynas a'r iaith Gymraeg - ond nid pawb sy'n cydnabod hynny.

Beth felly yw ein perthynas a'r Saesneg? Ni sy'n ddigon lwcus i fedru siarad Cymraeg?

Yng Nghymru mae'r Saesneg yn meddu ar sawl hunaniaeth; mae'n iaith Gymreig (yeah butt, no butt, no buts, butt); ond ar yr un pryd mae'n iaith drefedigaethol sy'n bygwth dyfodol y Gymraeg; mae hefyd yn iaith ryngwladol sy'n ein galluogi i siarad a phobloedd mewn sawl gwlad arall. Yn rhai o wledydd y dwyrain mae Saesneg yn "iaith ryddid"; Almaeneg neu Rwsieg yw ieithoedd gormes yn y Weriniaeth Jec er enghraifft.

Ond nol yng Nghymru mae siarad Saesneg gystal ag ildio'r ddadl dros y Gymraeg heb yngan gair. Gwnewch bopeth yn Gymraeg.

Dwi'n teimlo'r pwysau i gario mlaen ond teimlo'r pwysau i gael eraill i wneud hefyd. A fydd criw Aber yn cario mlaen? Byddai'n braf meddwl hynny. Fydd y gyfres pan gaiff ei darlledu yn ysgogi eraill i wneud run fath? Byddai'n braf meddwl hynny hefyd.

... ond sut mae gwneud y peth yn fwy atyniadol ac yn llai o fwrn?
(Achos mi fydd hi'n ymddangos yn faich i lawer)

Beth am wneud PyG ar un diwrnod o'r wythnos
e.e. Wednesdays for Welsh, fatha Dress Down Friday...
Neu beth am ymgyrch i normaleiddio un gair ar y tro?
Cael pawb i ddweud "diolch"yn lle "thanks"? National Diolch yn Fawr Week??!!

Fesul gair mae ieithoedd yn cael eu colli; pam ddim ei hadennill fesul gair?

Byddwch hyderus, byddwch gyfeillgar, dyfalbarhewch...
Gwnewch Bopeth yn Gymraeg!!
Mwynhewch!

28ain o Hydref 2005

Aeth popeth yn grêt - mae'r criw ma’ yn "Bopethwyr" naturiol iawn! Gobeithio fod hyn yn gychwyn ar gaseg eira anferth o weithgarwch tebyg...

Felly...

Be mae dyn yn gwneud gyda'r nos ar ôl diwrnod caled yn Aberystwyth yn trio gwneud Popeth yn Gymraeg? Yn eironig braidd, es i wylio noson o ffilmiau mud mewn hen sinema, gyda phianydd yn cyfeilio; ar ôl diwrnod cyfan yn ceisio cael hyd i ffordd o roi llais i'r Gymraeg, mae'n braf weithiau rhoi'r meddwl ar rywbeth di-iaith.

Roedd y rhan fwyaf o'r ffilmiau yn dangos Aberystwyth yn y dauddegau a'r hyn a'm trawodd yn syth oedd gymaint o'r dynion oedd yn smocio - bob un wan jac bron iawn. Dechreuodd y taflunydd chwythu mwg mewn cydymdeimlad; a fwy nag unwaith yn ystod y noson bu rhaid i'r pianydd druan lenwi mewn drwy adrodd straeon. Yn anffodus cafwyd mwy o broblemau hefo'r taflunydd nag oedd ganddo yntau o straeon i'n diddanu, a bu sawl saib anghyfforddus; ond rhaid dweud, i mi roedd yn rhan o'r hwyl - noson ddifyr iawn. Yn enwedig wedyn o fynd i dafarn Rummers a chyfarfod â bardd neu "bersolari" o Wlad y Basg. Dysgais mai "eskerrik asko" yw diolch yn fawr, ac ystyr "negu gorriak" yw gaeafau geirwon (!). Nid yn unig fod Aberystwyth yn lle canolog i'r Cymry, mae'n ganolbwynt i bob math o ddiwylliannau eraill, mae'n ymddangos.

27ain Hydref, 2005

Brecwast yn Aberystwyth ar y ffordd i Dy Ddewi i ffilmio’r ail raglen. Trefniant buffet oedd ganddynt; gofynnais i'r weinyddes:

- "Ydw i'n helpu'n hunan?"
- "It's over there, I'll take your order for tea and toast now."
Yn ddiweddarach felly, wrth y bwrdd,
- "Tea or coffee?"
- "Te plîs"
- "And toast?"
- "Oes plîs"
- "And your room number?"
- "Tri"

Ddau funud yn ddiweddarach, dyma glywed merch arall yn gweiddi:

- "ma’ ishe mwy o wye."
a hon yn ateb:
- "wi’ di gofyn amdanyn nhw'n barod."

Dyw cwsmeriaid yn amlwg ddim i fod i siarad Cymraeg! Ac i arbed sioc i'r sustem, mae clustiau gweinyddes yn cyfieithu'n syth i'r Saesneg mae'n rhaid!
Dechrau anaddawol. Roedd y menyn ar y bwrdd yn "Gymraeg" yn ôl y papur oedd wedi'i lapio amdano; ond fedri di ddim siarad â menyn... waeth be mae'r gwneuthurwyr yn honni.


Gwellodd pethau ar ôl cyrraedd Ty Ddewi. Yn rhan o ddathliadau'n nawddsant, roedd yr Esgob Carl Cooper, a maer Noas, gefeilldref Ty Ddewi yn Llydaw yno. Roedd stondinau bwyd ar y maes a stondin cennin pedr. Dechreuais siarad hefo merch o flaen y stondin:

"Ni yw'r unig dyfwyr cennin pedr mawr yng Nghymru."

Dychmygais flodau mor fawr â forklifts cyn sylweddoli bod hi'n cyfeirio at faint y ffarm.

28ain o Fedi 2005

Heddiw ês i am drip i Gonwy ac ymlaen i Fetws y Coed wedyn. Cofio mynd i Gonwy yn blentyn hefo Mam a 'mrawd i weld y castell a Phlas Mawr. Y cof penna sydd gen i am yr ymweliad yw'r milcshec ges i yn y National Milk Bar, oherwydd imi chwydu yn binc dros lawr y bws Crosville ar y ffordd adra.

Es i'r Tŷ Lleia a chyfarfod â'r tywysydd Gwyneth. Cymryd y pres yw ei phrif ddyletswydd - mae 'na dâp yn chwara sy'n dweud hanes y tŷ. Rhoiodd hi'r fersiwn Gymraeg ymlaen i mi; maen nhw'n gallu cynnig y sylwebaeth mewn rhyw bymtheg o ieithoedd, gan gynnwys Hebraeg. Siapanaeg a Sbaeneg yw'r tapiau y mae fwya o alw amdanynt ar ôl y Saesneg mae'n debyg.

Yn y castell, dyma ddynes yn gofyn imi "er du Norsk?" (wyt ti'n dod o Norwy?)
Ddoe wrth holi am le byta, dyma foi arall yn dweud "byta? bitte? - ah! you're speaking German are you?"

Ym Metws y Coed y lle gora fues i oedd siop werthu sŵfenirs; kitsch os mynnwch chi, ond "petha o safon" fel ddudodd Glyn y perchennog. Ac mae'n gwybod be ‘di safon gan fod gynno fo gasgliad o hanner miliwn o lyfrau ail law am Gymru a detholiad go lew ohonynt yng nghefn y siop. Roedd ganddo greiriau eraill; dangosodd damaid o'r faner Brydeinig a dynnwyd lawr o dŵr castell Caernarfon nôl yn y tridegau, am fod yr awdurdodau yn gwrthod hedfan y ddraig goch gyda hi.

On i'n dotio at y cyfuniad anghyffredin ma o ddiwylliant "uchel ael" ac "isel ael", a hynny dan yr unto. Ac mae'r goncs a'r côstyrs a'r capiau Cymru lawn mor bwysig yn eu ffordd. Maen nhw'n cyhoeddi hunaniaeth.

"Ti di sylwi," meddai fi, "ar y fferi rhwng Caergybi a Iwerddon, mond kitsch Gwyddelig maen nhw'n ei werthu; leprechauns, pethau Guinness a ballu - ond llong sy'n hwylio rhwng Iwerddon a Chymru ydi hi. Pam fod ein kitsch ni ddim yn cael lle ar y silffoedd tybed?"

Prynais i het drag goch ganddo fo, beth bynnag...

27ain o Fedi 2005

Dyma fi felly yn Llandudno, brenhines y trefi glan môr, chwedl nhwthau. Mae hitha'r cwîn yn aelod o'r Orsedd; pa mor Gymraeg ydi Llandudno?

Wrth ffilmio hefo'r camera cudd heddiw wnes i ddim dod ar draws llawer o siaradwyr Cymraeg (ond petawn i'n sefyll tu allan i ddrysau M & S ar bnawn Sadwrn, mae'n debyg baswn i'n gweld hanner Arfon a Dyffryn Conwy!)
Wedi deud hynna, doedd neb yn anfodlon trio siarad hefo fi. A chan nad oedd camera mewn golwg, naill ai mae fy lwc yn parhau, neu falla fod agweddau wedi newid...

O'r cant sy'n gweithio yn y gwesty lle dwi'n aros, mae 6 ohonynt yn siarad Cymraeg mae'n debyg. Holais i Gwilym yn y dderbynfa:
"Be sy'n denu pobl yma?
"Y bae ac ati..."

Gan bod ni'n clywed mwy dyddia hyn am dwristiaeth ddiwylliannol, tybed faint o ddiddordeb sgen y fusutors yn yr iaith leol?
"Maen nhw'n licio chlywad hi, ond sdim lot i'w glywad. Bydd lot yn holi am le gan nhw glywad canu Cymraeg - tafarn nos Sadwrn neu'r capel fore Sul. Mae gynnon ni rai drwodd rwan yn cael swpar cynnar er mwyn mynd i wrando ar Gôr Llanddulas heno; mae'r corau lleol yn rhoi cyngherddau drwy'r tymor, bob un yn ei dro."

Dwi ‘di llunio rhestr o bethau i'w gwneud tra mod i ar fy ngwyliau a hynny'n cynnwys trio'r bwyd lleol. Cofio'r stori am foi blin wedi bod yn bwrw ei gylchoedd mewn caffi yng Nghaerdydd a throi'r drol hefo'r staff gweini, cyn archebu hyd yn oed.
"I'd like to know if this is Welsh lamb"
"Why's that sba'? You wanna ave a conversation with it, is it?"

Es i Tiffanys i gael brecwast – wel, hefo enw fel'na, doedd 'na ddim dewis nagoedd?

26ain o Fedi 2005

Yn ystod y ffilmio ar gyfer y pedair rhaglen gynta, dwi di dod i deimlo mod i'n
chwara yn y ffenast, chwara gerbron y camera, heb fynd i'r afael â'r agweddau mwy gelyniaethus sy'n ffrâm i'r ffenest, fel petai. Neu felly dwi'n tybio. Dwi di profi'r agweddau negyddol 'ma droeon cyn hyn, ond ddim yn ystod y ffilmio.

- ydw i ar ganol rhyw rediad hir o lwc anhygoel felly?
- neu ydi'r camera yn gwarantu ymddygiad da y sawl dwi'n stopio yn y stryd?
- neu ydi'r camera efallai yn rhoi hyder imi ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn yn fwy effeithiol?

Dwi angen gwyliau. Ond dwi hefyd angen profi neu wrthbrofi hyn un ffordd neu'r llall. Ac felly ganwyd y syniad ar gyfer y pumed raglen.

Ces i gamera wedi'i guddio dan fotwm crys. Mae'n tueddu llithro a gorwedd ar dop fy mol gan bwyntio i fyny fymryn, yn lle gorwedd yn hollol fertigol; felly gan fy mod i'n weddol dal hefyd, y peryg ydi fod y sawl dwi'n trio eu ffilmio yn isel iawn yn y ffrâm, neu'n waeth fyth yn diflannu allan o waelod y llun! Mi ddôf i arfer gobeithio!

Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

Ceredigion, 16eg o Fehefin 2005...

Mae iaith ardal Llanymddyfri yn newid a ‘da ni ddim yn sôn am gyfieithu.

O edrych yn ffenestri'r gwerthwyr tai gwelwn "cae" yn troi'n paddock, "sgubor" yn troi'n ‘suitable for conversion to holiday cottages’. Lle chwara yw'r wlad, nid lle gwaith a chynhaliaeth.

Ar y bws o Lanymddyfri i Aberhonddu. Tair cenhedlaeth yn teithio gyda'i gilydd, Mamgu, Mam a bychan o'r enw Bailey (tybed ai Baileys bychan oedd yn gyfrifol am ei genhedlu?!) yna siarad â Maureen a Keith; roedd ŵyr Maureen yn astudio Cymraeg meddai, yn yr ysgol yn Aberhonddu. Wedyn, dyn o Drecastell yn mynd i wylio'r rasus yn y bwcis yn Aberhonddu – “rhywbeth i roi diddordeb imi yn fy henaint” meddai fo.

Synnu at barodrwydd pobl i dderbyn mod i "ddim yn siarad Saesneg" (sydd yn gwneud llai o synnwyr o gofio bod hi'n lled amlwg mod i'n deall Saesneg). Yn fwy na hynny, mae ambell un hyd yn oed wedi troi at ffrind ynghanol sgwrs hefo fi a dweud "he doesn't understand English" a minnau'n ymateb bob tro i unrhyw beth sy'n cael ei ddweud yn Saesneg, er nad ydyn nhw efallai yn deall f'ymateb.

Synnu hefyd at barodrwydd pobl i dderbyn y ddafad. Yn Aberhonddu wrth holi dwy eneth ysgol am y ffordd orau i fynd i'r Fenni roedden nhw'n rhyfeddu mod i'n meddwl cerdded - ond heb wneud unrhyw sylw fod gennyf ddafad ffug dan fy nghesail.

Ceredigion, 15fed o Fehefin 2005...




Rhiannon o’r ganolfan Aur yn Nhregaron wedi cael papur banc y Ddafad Ddu ar ôl pymtheg mlynedd o chwilio. Roedd yr ‘Aberystwyth and Tregaron Bank’, a rhoi iddo ei enw swyddogol, mewn adeilad ar draws y sgwâr o'i siop hi, a'u papurau banc yn defnyddio lluniau o ddefaid i ddangos eu gwerth, dwy ddafad ar y papur dwy bunt, un ar y papur punt ac oen bach ar y papur decswllt. Papur dwy bunt oedd gan Rhiannon; roedd y peth wedi dod i'r fei mewn ffeil papurau rhyw dwrne o Gaerfyrddin.

Yng nghefn siop Rhiannon mae caffi Sara Bara (wedi ei enwi ar ôl hen gymeriad oedd yn pobi ar y safle). Hogan Gymraeg ei hiaith oedd yn gweini arnom a synnais gweld un o’r genod fu'n siarad Cymraeg yn rhugl â mi yn y siop yn siarad Saesneg â hi. "Am y tro cynta," meddai Rhiannon, "mae'n broblem cael ein staff ifanc i siarad Cymraeg a'i gilydd - ac mae'n cwsmeriaid yn hoffi clywed nhw'n gwneud hynny."

Yn nhafarn Tywi Bridge yn Rhandirmwyn, daeth y tafarnwr at y drws wrth imi basio gyda 'nafad ffug dan fy nghesail. Roedd yn gwisgo het cowboi ac yn dod o'r Fflint. Roedd ei ferch isio rhoi ô-bach i'r ddafad tra fod ei gi yn ymosod yn ffyrnig ar olwynion unrhyw gar oedd yn pasio.

Cofio galw yno am beint neu ddau rhai blynyddoedd yn ôl, hefo criw o'r pentre nesa, Cilycwm. Ar ôl tipyn dyma sylweddoli nad oedd neb yn ddigon sobor i ddreifio:

- ‘Be wnawn ni felly? Ffonio am dacsi?’
- ‘Jiw jiw paid â poeni - dreifwn ni nôl.’
- ‘Ond be am yr heddlu?’
- ‘Ni'n switsio goleuade'n ceir ni bant - fel bo nhw'n ffili'n gweld ni!’

A dyna wnaed...

Doedd y cowboi ddim yn gwneud bwyd a chawsom ni ein gwrthod mewn dau le arall, am bod hi'n bum munud i ddau. "Be sy'n bod arnyn nhw 'te?" gofynnodd tafarnwraig gymwynasgar Cilycwm wrth

Ceredigion, 14eg o Fehefin 2005...

Dechrau siarad hefo tafarnwr y Llew Du yn y Bont, dyn o Gernyw, ac yn fuan aethon ni i gors o ddiffyg deall. "I've only got business Welsh" meddai, sef rhyw chydig o eiriau ymarferol i ddangos ewyllys da. "Pum punt os gwelwch yn dda" ac yn y blaen. Eironig meddwl fel mae'r pentre wedi newid. Yn ôl cyfrifiad 1891, roedd y rhanfwyaf o'r pentrefwyr yn uniaith Gymraeg, a'm hen hen dadcu, Thomas Hughes yn eu plith. Tybed sut oedd o'n delio â phrynwyr ym marchnadoedd dros y ffin felly, wrth iddo fynd ar ei daith fel porthmon ? Rhyw fath o "business English" fyddai ganddo mae'n siwr...

Cyfuniad od o'r hen a'r newydd yn Bont; cyfarfod a llawer un dwi'n cofio o 'mhlentyndod... a llawer o Saeson wedi symud mewn. Ar safle lladd-dy'r teulu mae tai newydd "we kept some of the stones from the old slaughterhouse for the garden wall" meddai dynes ifanc sydd ar fin priodi un o'm cefnaint. Cyfarfod â jogar tu allan i siop Tom Lloyd wedyn : “I'm going to marry a full-blooded Welshman”, meddai hi. Tybed fydd yr hogiau yn llwyddo i newid iaith yr aelwyd? Mae peryg y bydd y dosbarth derbyn mhen tair blynedd yn hollol Saesneg. Saesnesau yw pawb sy'n disgwyl ar hyn o bryd.

Ond wedi dweud hynny, roedd Cheryl yr hogan trin gwallt yn rhyfeddol o unfazed gan rywun yn siarad Cymraeg hefo hi. Petai mwy yn gwneud...

Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

27ain o Fai 2005

Cinio yn nhafarn y Fox, Croesoswallt heddiw. Wn i ddim a oedd gan Rhys Cain "local" pan oedd o'n byw 'ma, ond mae'r dafarn hon yn ddigon hen iddo fod wedi yfed yma. Yn addas ddigon, roedd 'na gerdd yn cael ei darllen ar y radio pan ddaethon ni mewn; cychwynnodd hefo'r llinell anfarwol "shag and brag if you will". Roedd hyn yn amlwg yn rhyw fath o thema ar gyfer y diwrnod, achos yna clywais Jeremy Vine yn dweud "is it posible that your penis is so large that there's not enough blood in your body to make it hard?" Wir yr, ar fy marw! A hynny yn ei lais blin jest-atebwch-y-cwestiwn, Brif Weinidog. Roedd yn ddigon i roi dyn off ei sosej.

Nid y rhaglen radio oedd yr unig brofiad od i ni gael yn "’Syswallt" - wrth gerdded o gwmpas, dyma ddechra dod i'r casgliad fod y dref yn llawn pobl od…

1. Dyn â barf gafr wen, yn cerdded heibio gan ddweud "ah!" yn uchel bob yn ail gam, druan ag o.

2. - ‘Are you going back to your van?’
- ‘Sori?’
- ‘I saw you earlier.’
- ‘Dwi'm yn meddwl’
- ‘Can I ask you one question then?’
- ‘Iawn.’
- ‘You know presenters, when they're filming, do they put on a false personality, or is that how they really are?’

3. ‘What's there to film here then? You should go to the well. It dates back to 1963 you know, and all the people of the town used to go there to wash the bacteria off their hands.’

Tipyn mwy difyr oedd y Cymro ddes i ar ei draws yng nghanolfan groeso Croesoswallt. Mae'r dref yn rhan o Loegr ers 1536, ond parhaodd gwasanaethau Cymraeg yn eglwys y plwy tan 1814, ac mae "’Syswallt" dal yn dre farchnad i lawer o ffermwyr o gwmwd Cynllaith dros y ffin. Mae llawer o feirdd wedi byw yn y dre neu ganu mawl iddi, gan gynnwys Rhys Cain wrth gwrs.

Roedd William Morgan, cyfieithydd y Beibl yn ficar Croesoswallt rhwng 1599-1602 ac felly'n gymydog i Rhys. ‘Sgwennodd gywydd ar ei ran i ddiolch am anrheg o wyddau gan ficar Abergele - ond roedd y gwyddau mor ffyrnig, meddai Rhys Cain yn gellweirus, mi oedden nhw wedi lladd y dofednod oedd ganddo yn barod, a'i filgi hefyd!

"Dyna afrad ar adar,
dyna bla gwyllt dan blu gwâr!"


Roedd gan Rhys Cain dŷ ar stryd Wylyw (wedi'i rentio iddo gan weddw ei gyn-athro barddol Wiliam Llŷn oedd hefyd yn byw yng Nghroesoswallt) - y rhent oedd ugain swllt y flwyddyn a rhosyn coch... Nid yw'n hysbys bellach lle yn union oedd y tŷ; byddai'n braf meddwl ei fod o yng nghyffiniau'r dafarn ar y stryd sydd wedi'i enwi ar ôl bardd mwy diweddar o'r dre, y Wilfred Owen. Ond trwy gyd-ddigwyddiad arall, ar yr un stryd mae'na decawê Bangladeshi o'r enw Red Rose...

26ain o Fai 2005

Mae cyfrifoldeb yn pwyso'n drwm arna'i i sicrhau fod pobl yn fy neall a ddim yn cael eu diflasu, na'u hypsetio; hynny yw, trio creu sefyllfa lle maen nhw'n fodlon bod yn amyneddgar.

Difyr felly oedd sylw y ddynes yn siop Caerwys heddiw, wrth y dyn camera ar ôl ffilmio:

"He was very patient with us, wasn't he?"

A minnau'n teimlo mai hi oedd wedi bod yn amyneddgar hefo fi! Ond efallai mai hi sy'n iawn. Wedi sôn am fy nghyfrifoldebau i, beth am y gyfrifoldeb sydd ar bob dinesydd o Gymro neu Gymraes i drio deall? Oes rhaid i ddwyieithrwydd fod yn stryd unffordd? Da iawn chi, Margaret! A diolch am y bechdan ham hyfryd!

24ain o Fai 2005

Bysgio ar strydoedd Wrecsam heddiw - hefo cerddi!
Y gogledd-ddwyrain yw’r ardal dan sylw ar gyfer y drydedd raglen.

Teimlo fymryn o chwithdod wrth gyflwyno cerddi yn gwbl ddi-gyd-destun. Fel arfer mae rhywun yn gwneud hyn fel rhan o noson o ryw fath ac mae cyfle i ddweud rhywbeth fydd, gobeithio, yn helpu i'w gwneud yn berthnasol. Ond wrth fysgio, mae'r gynulleidfa yn symudol, yn newid drwy'r amser; rhaid hoelio eu sylw heb ragymadroddi. Newidiais ambell i lein mewn ymgais i roi blas lleol e.e. "aethom i Wrecsam am drip", ond drwy'r amser on i'n ymwybodol "be sydd â wnelo'r gerdd ‘ma a chdi?" Cerddi i non-consenting adults!

Serch hynny, dysgais gwpwl o driciau bysgar yn fuan.
Mae pafin gul yn well nag un llydan - mae'n anos i bobl basio o'r tu arall heibio; maen nhw'n gorfod dod yn nes. Dyma un sylw:

- "I've lived twenty years in Caia Park where the riots were. I thought you were a beggar, but you're too well dressed."


Peint yn yr Horse and Jockey wedyn - y tro dwytha imi fod yno gyda chriw o Gymry eraill a'r bar yn wag heblaw amdanom ni, dywedodd y ddynes tu ôl i'r bar ein bod ni'n "rude" yn siarad Cymraeg o'i blaen hi. "That's really ignorant". Nid siarad Cymraeg hefo hi cofiwch, dim ond yn ei g_ydd hi.
Bellach mae'r lle wedi newid dwylo, a phlant y tafarnwr mewn ysgol Gymraeg.
Da.

Bysgio tu allan i'r Borras Park Fish Bar wedyn - sy'n eiddo i George Koumas, cefnder Jason y peldroediwr rhyngwladol. Daeth torf o blant o nghwmpas i'n syth ac roedden nhw'n wariars go iawn; ddim isio clywed cerddi ond yn fodlon dangos faint o Gymraeg on nhw'n ei wybod:
Yndw, nagdw, cau'r drws, he's calling me pen pidyn - what's that mean?

When's this going out?
Mis Tachwedd.
November?

Sut mae?
Da iawn.

Ond doedd ganddyn nhw ddim llawer o fynedd gwrando ar gerddi.
"You're in the wrong part of Wales" meddai'r g_r ifanc hefo'i ben wedi'i siafio "There's lots of Welsh in Cardiff… Or Bala… or Holyhead…"

"Can't you speak English?" meddai un arall.
"Dwi'n dallt Saesneg ond 'mond yn siarad Cymraeg, meddai fi, gan arwyddo "dallt" a "siarad" drwy bwyntio at fy nghlust ac yna at fy ngheg.

"I can do that as well," meddai un gan ddynwared y stumiau (clust, clust) "??!!...Off" (ceg, ceg) "You...??!!...
So are you swearing at us then?"
"Nagdw"
"Oh"


Diolchais mod i'n fwy na fo, a'i fod o'n fodlon fy nerbyn ar fy ngair!

Roedd saith geiniog yn yr het. Roedd hi'n amser ffarwelio a symud ymlaen.

Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

Sir Benfro, 3 Mawrth 2005...

Galw yn nhafarn Bessie yng Nghwm Gwaun ar y ffordd nôl i'r gwesty. Codi peint i finnau a'r criw. Bessie wedyn yn mynd nôl i'w sêt wrth ochr y tân lle roedd hi'n siarad â gwr lleol. Edrychodd i'n cyfeiriad cyn dweud yn gyfrinachol wrth hwnnw,
"Mae'r pedwar o'nyn nhw'n siarad Cymrag - seno hynna'n digwydd yn amal"

Pan aeth hi allan i'r cefn yn ddiweddarach, dyma yntau'n troi atom ni am sgwrs.

Sibrydodd y stori hon am wraig fferm leol a'i gwr, yn gweiddi ar draws y stryd yn Abergwaun, fel 'sen nhw naill pen y clos gartre, a phawb o ganlyniad yn clywed y cyfan.
- "Alla'i ga'l arian i byrnu sgitsie newi?"
- "Na chei"
- "Alla'i ga'l arian i byrnu sgitsie newi?!"
- "Wi di gweud "na""
- "Na fe te - ond cofia di - ma isie pedoli cyn marchogeth"!!

Dwi'n licio sir Benfro. Mae golau rhyfeddol yma a phobl gwreiddiol iawn. Yn Nhy Ddewi dwi wedi gweld poster yn hysbysebu gwasanaeth rhywun sy'n cyfri ei hun "yn fwy na’r Ymherodraeth Brydeinig – a Dewi Sant" Does bosib!

Ac yn Arberth gwelais yr hysbyseb anghyffredin hon, yn cynnig gwasanaeth Mamgu Bouncy Castles . Arhoswch eiliad hefo'r ddelwedd ryfeddol honno

Efallai nad yw'n cyfieithu. Sy'n f'atgoffa o stori am beryglon cyfieithu er nad oes wnelo hi ddim â Sir Benfro:

Roedd Geoffrey Howe yn Rwsia ryw dro yn siarad mewn cinio swyddogol gyda chymorth cyfieithydd. Yn ystod ei araith, dywedodd:

"The spirit is willing but the flesh is weak", ond cafodd ei gyfieithu fel hyn:

"Mae'r fodca yn o lew, ond mae'r cig heb ei gwcio'n iawn."

Tair Morwyn Dr Charles
Tom Griffiths

Sir Benfro, 2ail o Fawrth 2005...

Bues i'n Llanboidy heddiw.

Wedi holi yn y post tybed oedd ‘na felin yn dal i fod yn y pentre, dyma landio amser swper yn Felin Ganol a Tom Griffiths yn codi o'r bwrdd bwyd mewn cegin o'r oes o'r blaen. Hanner disgwyl gweld calendar o 1951 ar y wal! Dyn hyfryd, croesawgar.

Dangos llun y "tair morwyn" iddo, a dynnwyd yn Llanboidy gan John Thomas yn 1885:

- "Tybed fyddech chi'n nabod y tair yma 'te? Cofiwch chi, bydden nhw'n hen iawn erbyn i chi nabod nhw."

Daeth gwên i'w wyneb:

- "Mae'r rhai hen yn fwy saff ‘da fi - chi'n siarad â thipyn o dderyn fan hyn!"

Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

23ain Chwefror 2005, Gwent...

Y Steddfod a drefnais i yn Y Fenni wedi mynd yn iawn, dwi'n meddwl - o leia daeth â phobl ynghyd a rhoi cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg, a dyna oedd y prif bwrpas am wn i. Er enghraifft, y ddwy ddynes o ardal Caernarfon sydd wedi bod yn byw yn y Fenni ers blynyddoedd a heb gyfarfod â'i gilydd cyn heno!

Braint pobl y gorllewin yw mwynhau iaith wedi'i hangori mewn profiad cymunedol - swn plant yn chwara ar y stryd a ballu. Ond mae'r serch at yr iaith yn yr ardal yma yn danbaid gan sawl un...

22ain Chwefror 2005, Gwent...

Yn eglwys Llanofer mae enwau'r ffermydd lleol i'w gweld ar y seti, a monogram yr Arglwyddes ar y sêt nesa at y drws - yn y cefn. Roedd yn well ganddi fod yn fanno er mwyn gweld yn haws os oedd unrhyw un o'i thenantiaid heb ddod i'r eglwys!

Cymaint oedd sêl Ledi Llanofer dros y Gymraeg, mynnodd roi enwau Cymraeg ar dai ei thenantiaid i gyd. Mae'r enwau wedi parhau, ond mae'r ynganiad, ysywaeth, wedi newid. Roedd dynes yn trefnu blodau yn yr eglwys pan alwes i heibio; roedd hi'n byw yn un o dai'r stad, meddai hi, yn "Ti kebby do" Amneidiais yn gwrtais o ddiddeall, nes pasio Ty'r Cerbydwr nes ymlaen!

Mae Arglwyddes Llanofer yn bennaf adnabyddus am ei hymdrechion dros y Gymraeg a'n diwylliant traddodiadol ni, ond roedd hi hefyd yn dipyn o deyrn ar faterion dirwest. Pan welodd hi feic ei garddwr tu allan i dafarn leol, fe gafodd ei alw i'w phresenoldeb a'i gyhuddo'n syth. Gwadodd yntau iddo fod yn y dafarn. Ond beth am y beic tu allan? Protestiodd yntau nad oedd hynny'n profi dim; ond i'r Arglwyddes, roedd yn ddigon i'w ddamnio, a chafodd y garddwr ei geryddu'n llym.

Y noson wedyn, i brofi ei bwynt, gadawodd y garddwr ei feic dan ffenest llofft yr Arglwyddes; chlywodd o ddim byd wedyn!

21ain Chwefror 2005, Gwent...

Dechreuon ni yn Nhafarn Rhyd y Blew yn Beaufort, Blaenau Gwent: enw hyfryd iawn (dwi'n siwr fod Gwent a Morgannwg wedi dal gafael ar fwy o enwau Cymraeg ar eu tafarnau nag yn y Gogledd a'r Gorllewin - pam tybed?)

Yn ôl y stori, tafarn ar lôn y goets fawr oedd hon gynt, a dyfroedd y rhyd yn golchi boliau’r ceffylau wrth iddynt groesi. Pam fod hynny'n peri iddyn nhw fwrw eu blew fedra'i ddim dweud. Mae'n swnio mor annhebygol â'r stori hon a glywais flynyddoedd yn ôl mewn tafarn yn Yr Wyddgrug pan sylwodd un o'r yfwyr lleol mod i a'm ffrind yn siarad Cymraeg.

"Daniel Owen used to drink in this pub you know. The chapel deacons were dead against it and they used to come round and check. But that's why they wore top hats in those days so if the deacons came in, the men in the pubs would put them over their pints and pretend they were praying. Now you've seen Daniel Owen's statue in town? He's only got a bowler hat - but that's because he used to drink shorts."

Be sy'n arwyddocaol gyda'r ddwy stori efallai yw'r ffaith fod pobl yn dal i deimlo perchnogaeth dros bethau'r iaith, hyd yn oed os ydi'r union ystyr wedi cilio.

Yn Rhyd y Blew, cawsom bastai bob un, a'i fwyta wrth ymyl y bwrdd pool mewn cadeiriau chrome. Wrth godi peint, sylwais fod dau forgrugyn yn cerdded ar y bar! Edrychais ar y ferch tu ôl i'r bar yn syn; cododd ei sgwyddau. Roedd hi a gweddill y staff tu ôl i'r bar i gyd yn gwisgo du. Roedd te angladd drwodd yn y bar mawr a diaspora'r pentre’ wedi dychwelyd am ddiwrnod, yn symffoni o acenion gwahanol, er mwyn talu'r gymwynas ola’. Ar ddiwrnod fel yna, pa ots am forgrug?

Ar ôl dechreuad swreal braidd, braf cofnodi fod ymateb pobl yn lot fwy positif yn Rhymni nag o’n i wedi meddwl - gwych, a dweud y gwir. Addo'n dda at weddill y daith.

20fed Chwefror 2005, Gwent...

Rhyw feddyliau cyn cychwyn allan i ffilmio’r rhaglen gynta yng Ngwent...

Wrth gael fy magu yn Llundain, roedd dyn yn tueddu gwneud yn fawr o'i gyfle i siarad Cymraeg, ac mae'r tueddiad yna wedi para i ryw raddau wedi i mi symud nôl i Gymru. Buan y dysgais i nad ydi dechra pob sgwrs yn Gymraeg yn helpu chdi gael dy syrfio mewn pyb yng Nghaerdydd:

- "Peint o gwrw plîs"
- "You Polish?!"

Ond rhaid trio, does? Tybed ai ymateb fel'na ga'i fory? Dros y blynyddoedd, dwi wedi datblygu "radar" am le ddylai rhywun mentro dechrau sgwrs yn Gymraeg bob tro. Er enghraifft: Caerdydd - na. Y Rhyl - na. Roedd Dinbych ar y llaw arall, lle buom ni'n byw ar ôl priodi, yn anodd yn hynny o beth. Yn ddigon Cymraeg i beri i rywun ddygnu mlaen i drio, yn ddigon Saesneg i beri llawer iawn o rwystredigaeth wrth wneud.

Ond fory dwi'n diffodd y "radar"...

Wedi dweud hynny, mae gwahaniaeth rhwng dechrau sgwrs, a mynnu parhau sgwrs yn Gymraeg. ‘Da ni'n nerfus fel Cymry dwyieithog... ond petaen ni'n mynnu siarad Cymraeg, base rhaid i bobl eraill yn ein cymunedau ddysgu - dyna sut mae gennym Baums a Stuhlfelders a Clossiaid Cymraeg. Nid caredigion yr iaith mo'u cyndadau, jest pobl gyffredin oedd am ffitio mewn, oedd yn gorfod ffitio mewn.

Ydi'r reddf yna dal ynom ni? Drwy brotestio am yr allanolion - statws swyddogol, arwyddion, ffurflenni ac ati - ydan ni wedi colli rhyw elfen o'r cythraul, y grym ewyllys, sy'n gwneud i bobl fynnu siarad Cymraeg? Dargyfeirio'n hegni mewn i'r allanolion?

Ond dwi'm isio colbio pobol hefo'r Gymraeg chwaith - gwneud y peth yn gyfrwng "ni a nhw". Cyfrwng "ni" ydi o - eiddo pawb yng Nghymru, p'un ai dyn nhw'n ei medru hi ai peidio.

Be wna'i fory felly? Mae rhyw nerfusrwydd yn dod drosta'i mwya sydyn a minna'n mynd allan fory am y tro cynta i drio gwneud popeth yn Gymraeg.
Dwi'n teimlo fel hogyn o Lundain eto, ar blatfform Euston, yn barod i fynd ar fy ngwyliau... Fydd pobol yn gas? Siawns ga'i'r un parch a th_rist o leia?
A tydi rheina ddim bob tro'n medru Saesneg. Cawn weld...

Helo