23ain Chwefror 2005, Gwent...Y Steddfod a drefnais i yn Y Fenni wedi mynd yn iawn, dwi'n meddwl - o leia daeth â phobl ynghyd a rhoi cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg, a dyna oedd y prif bwrpas am wn i. Er enghraifft, y ddwy ddynes o ardal Caernarfon sydd wedi bod yn byw yn y Fenni ers blynyddoedd a heb gyfarfod â'i gilydd cyn heno!
Braint pobl y gorllewin yw mwynhau iaith wedi'i hangori mewn profiad cymunedol - swn plant yn chwara ar y stryd a ballu. Ond mae'r serch at yr iaith yn yr ardal yma yn danbaid gan sawl un...

5 Sylwadau:
Rhaglen dda heno, dw i'n edrych ymlaen at weddill y gyfres.
Fel brodor o Went, mae'n hawdd iawn cymryd yn ganiataol nad oes unrhyw un y'ch chi'n cwrdd â nhw bron yng Ngwent yn siarad Cymraeg, ac felly roedd yn agoriad llygad gweld cynifer oedd yn medru o leiaf ychydig o'r iaith, ac yn fodlon gwneud rhyw fath o ymdrech.
Ond, i godi pwynt, dyw Rhymni ddim yng Ngwent!
Digwyddodd rhywbeth tebyg mewn un o Sadyrnau Siarad Menter Iaith Sir Caerffili'n ddiweddar pan sylweddolodd dau berson o'r un stryd yn mhentref Gilfach Fargoed bod y naill a'r llall yn siarad Cymraeg!
Pwynt teg Geraint - o '74 tan y 90au roedd Rhymni ym Morgannwg Ganol, a chyn hynny yn yr hen sir Fynwy.
Defnyddiais y term "Gwent" ar gyfer y map yn hytrach na Sir Fynwy, rhag peri dryswch hefo'r "Sir Fynwy" newydd sydd ond yn cynrychioli rhan ddwyreiniol yr hen sir.
Ond yn y troslais dywedais fod Rhymni "mewn cornel o'r hen sir Fynwy"....
(Yn tydwi'n trio chael hi bob ffordd dwch?)
(Ac i gymhlethu pethau ymhellach, er fod Rhymni ym Morgannwg Ganol o'r 70au i'r 90au, yn ol cyfaill o'r dre honno "Rhymni, Gwent" oedd eu cyfeiriad gan y swyddfa post hefo cod post Casnewydd -NP!)
Popeth yn iawn! Tynnu coes, 'chan!
Post a Comment
<< Hafan