Tair Morwyn Dr Charles

Tom Griffiths

Sir Benfro, 2ail o Fawrth 2005...
Bues i'n Llanboidy heddiw.
Wedi holi yn y post tybed oedd ‘na felin yn dal i fod yn y pentre, dyma landio amser swper yn Felin Ganol a Tom Griffiths yn codi o'r bwrdd bwyd mewn cegin o'r oes o'r blaen. Hanner disgwyl gweld calendar o 1951 ar y wal! Dyn hyfryd, croesawgar.
Dangos llun y "tair morwyn" iddo, a dynnwyd yn Llanboidy gan John Thomas yn 1885:
- "Tybed fyddech chi'n nabod y tair yma 'te? Cofiwch chi, bydden nhw'n hen iawn erbyn i chi nabod nhw."
Daeth gwên i'w wyneb:
- "Mae'r rhai hen yn fwy saff ‘da fi - chi'n siarad â thipyn o dderyn fan hyn!"

3 Sylwadau:
Mwynhau'r rhaglenni yn fawr. Syniad da iawn a chyflwyno ffraeth!
Fydd y rhaglenni yn cael eu hailddarlledu? Hoffwn i fod wedi tapio nhw ar gyfer yr ysgol!
Ac yn well byth, a fydd yn bosibl i diwtoriaid Cymraeg i oedolion cael gafael ar gopiau ar DVD? Dw i wedi annog fy nysgwyr i i wylio, ond mae llawer ohonyn nhw, yn enwedig y dechreuwyr, yn ffeindio gwylio S4C yn anodd - yn enwedig y rhai sy'n rhannu tŷ â phobl di-Gymraeg felly.
Mae'n bosib y bydd y gyfres ar gael yn fuan ar DVD os oes digon o alw...
Post a Comment
<< Hafan