Croeso i flog Popeth yn Gymraeg, ychwanega dy sylwadau...

28ain o Fedi 2005

Heddiw ês i am drip i Gonwy ac ymlaen i Fetws y Coed wedyn. Cofio mynd i Gonwy yn blentyn hefo Mam a 'mrawd i weld y castell a Phlas Mawr. Y cof penna sydd gen i am yr ymweliad yw'r milcshec ges i yn y National Milk Bar, oherwydd imi chwydu yn binc dros lawr y bws Crosville ar y ffordd adra.

Es i'r Tŷ Lleia a chyfarfod â'r tywysydd Gwyneth. Cymryd y pres yw ei phrif ddyletswydd - mae 'na dâp yn chwara sy'n dweud hanes y tŷ. Rhoiodd hi'r fersiwn Gymraeg ymlaen i mi; maen nhw'n gallu cynnig y sylwebaeth mewn rhyw bymtheg o ieithoedd, gan gynnwys Hebraeg. Siapanaeg a Sbaeneg yw'r tapiau y mae fwya o alw amdanynt ar ôl y Saesneg mae'n debyg.

Yn y castell, dyma ddynes yn gofyn imi "er du Norsk?" (wyt ti'n dod o Norwy?)
Ddoe wrth holi am le byta, dyma foi arall yn dweud "byta? bitte? - ah! you're speaking German are you?"

Ym Metws y Coed y lle gora fues i oedd siop werthu sŵfenirs; kitsch os mynnwch chi, ond "petha o safon" fel ddudodd Glyn y perchennog. Ac mae'n gwybod be ‘di safon gan fod gynno fo gasgliad o hanner miliwn o lyfrau ail law am Gymru a detholiad go lew ohonynt yng nghefn y siop. Roedd ganddo greiriau eraill; dangosodd damaid o'r faner Brydeinig a dynnwyd lawr o dŵr castell Caernarfon nôl yn y tridegau, am fod yr awdurdodau yn gwrthod hedfan y ddraig goch gyda hi.

On i'n dotio at y cyfuniad anghyffredin ma o ddiwylliant "uchel ael" ac "isel ael", a hynny dan yr unto. Ac mae'r goncs a'r côstyrs a'r capiau Cymru lawn mor bwysig yn eu ffordd. Maen nhw'n cyhoeddi hunaniaeth.

"Ti di sylwi," meddai fi, "ar y fferi rhwng Caergybi a Iwerddon, mond kitsch Gwyddelig maen nhw'n ei werthu; leprechauns, pethau Guinness a ballu - ond llong sy'n hwylio rhwng Iwerddon a Chymru ydi hi. Pam fod ein kitsch ni ddim yn cael lle ar y silffoedd tybed?"

Prynais i het drag goch ganddo fo, beth bynnag...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan